Croeso'r Pennaeth
Mae'n bleser gen i eich croesawu'n gynnes i Ysgol Emrys ap Iwan, ysgol hapus a bywiog wedi ei lleoli ar hyd arfordir gogledd Cymru sy'n gwasanaethu tref farchnad fach Abergele a chymunedau ehangach ym Mae Cinmel, Bodelwyddan, Towyn a thu hwnt.
Mae gennym enw da ers amser maith am werthoedd traddodiadol, cyflawniad academaidd uchel, cefnogaeth, gofal ac arweiniad eithriadol tra'n darparu profiadau rhagorol i ddysgwyr drwyddi draw.
Mae arwyddair ein hysgol o Mentra i Lwyddo yn sail i’r hyn rydym yn gredu ynddo, y dylai pob plentyn fod yn hapus i ffynnu a chyflawni ei uchelgais.
Mae'r cyfle i addysgu plant pobl eraill yn fraint sydd yn dod â chyfrifoldeb enfawr gyda hi. Cyfrifoldeb i ddarparu'r addysg orau bosibl wrth i ni anelu at baratoi pobl ifanc ar gyfer hapusrwydd a llwyddiant yn eu bywydau fel oedolion. Yn Ysgol Emrys ap Iwan rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Mae gofal a llês yr unigolyn, ble mae meithrin ymdeimlad o gynhesrwydd cymuned lle mae pob un o'n dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn hollbwysig i ni yn Ysgol Emrys ap Iwan
Rydym yn adnabyddus am fod yn 'ysgol â chalon' ac mae hyn i’w weld yn y berthynas ardderchog sydd rhwng y staff a'r dysgwyr ac ymhlith y dysgwyr eu hunain. Trwy'r 5 Ffordd i Lês, rydym yn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol gyda'n dysgwyr. Mae ymwelwyr â'n hysgol bob amser yn gwneud sylw o agwedd ragorol y dysgwyr tuag at eu dysgu, y ffordd maen nhw'n gwisgo eu gwisg gyda balchder a’r ffordd maen nhw'n ymddwyn o fewn a thu allan i’r gwersi.
Mae cefnogaeth gref yn yr ysgol i gefnogi dysgwyr i gael mynediad i'r brifysgol yn dilyn canlyniadau llwyddiannus o fewn ein chweched dosbarth ac rydym yn edmygu llwyddiannau parhaus ein cyn-fyfyrwyr.
Wrth i chi bori trwy ein gwefan, fe welwch wybodaeth werthfawr am bopeth rydym yn ei gynnig yma. P'un ai ydych yn ddarpar ddysgwr, yn rhan o gymuned ein hysgol ar hyn o bryd, neu'n ymwelydd chwilfrydig, rydym yn gobeithio bydd y llwyfan hwn yn rhoi blas o fywyd bywiog Ysgol Emrys ap Iwan i chi.
Rwy'n falch iawn ac yn teimlo braint o’r mwyaf o fod yn Bennaeth newydd Ysgol Emrys ap Iwan. Rwy'n ffodus iawn o gael gweithio gyda thîm ymroddedig o staff, dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr. Dim ond trwy'r cydweithrediad hwn y gellir cyflawni'r awyrgylch cadarnhaol hwn, ac y gallwn gyflawni ein gweledigaeth o ysgol lle mae pawb yn 'Mentro i Lwyddo'.
Mr Matthew Wildsmith
Pennaeth